Bywgraffiad Biography
Aled Rhys Hughes
Ganed yn y Rhondda a'i fagu yng Nghwmllynfell. Mae'n byw yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio fel artist ffotograffig a darlithydd ffotograffiaeth. Bu'n gweithio ym maes ffotograffiaeth am ddeugain mlynedd, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 1996.
Enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe, 2006 am ei ddelweddau 'Ffarwel Rock'. Mae Aled wedi arddangos ei waith ledled Cymru gan gynnwys sioe unigol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2004, ac mewn lleoliadau yn Ewrop; mae lluniau o'i eiddo'n perthyn i gasgliadau cyhoeddus megis Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
Cyfrannodd i gyhoeddiadau nodedig gan gynnwys The Welsh Lens (MOMA Cymru, 1996) a Rhyfedd o Fyd (Gomer 2006). Ef oedd awdur delweddau trawiadol y gyfrol Môr Goleuni Tir Tywyll (Gomer), cyfrol i ddathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004.
I weld CV llawn, cysylltwch ag Aled
