 Oriel / Gallery
|
Bu bywyd a gwaith y bardd a’r
heddychwr mawr Waldo Williams (1904– 1971) o ddiddordeb
i mi ers amser. Cefais gyfle arbennig yn 2004 i lunio cyfres o
luniau mewn ymateb i’w waith ysgrifenendig o ganlyniad i
dderbyn comisiwn gan Wasg Gomer oedd, fel cyhoeddwr y bardd, yn
awyddus i ddathlu canmlwyddiant ei eni. Cyhoeddwyd y gyfrol Môr
Goleuni / Tir Tywyll o dan olygyddiaeth Damian Walford
Davies ym mis Awst 2004.
Cafodd Waldo brofiad ysbrydol pan oedd yn bedair ar ddeg oed a
wnaeth iddo gredu ‘bod pobl, yn anad dim, yn frodyr a chwiorydd
i’w gilydd’. Hyn a lywiodd ei weledigaeth gydol ei
oes. Roedd yn Grynwr, yn heddychwr a ddioddefodd galedi personol
enbyd oherwydd ei ddaliadau ac yn fardd gyda’r gorau a welodd
Cymru erioed. Ymagis yw’r lluniau, a waned yn bennaf yn
Sir Benfro, sir Waldo, i ddehongli ei ddaliadau arbennig, daliadau
sy’n debyg iawn i’r hyn a gredaf i. |
The life and work of the great
poet and pacifist Waldo Williams (1904–1971) has interested
me for a long time. In 2004 I was given a special opportunity
to create a series of photographs in response to his written work.
I received a commission by Gomer Press, the poet’s publisher,
who were eager to celebrate the centenary of his birth. The volume
Môr
Goleuni / Tir Tywyll edited by Damian Walford Davies
was published in August 2004.
When he was 14, Waldo had a spiritual experience which caused
him to believe that people, above all else are brothers and sisters
to one another. It was this which directed his vision for life.
He was a Quaker, a pacifist who suffered personal hardship because
of his beliefs and an immense poet, among the best Wales has seen.
My photographs, which are mostly from Pembrokeshire, Waldo’s
county, are an attempt to interpret his visionary beliefs, beliefs
which are very similar to my own. |