Aled Rhys Hughes
Ganed yn y Rhondda a’i fagu yng Nghwmllynfell. Mae’n byw yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gyda’i wraig, Bethan Mair. Mae’n gweithio fel artist ffotograffig a darlithydd ffotograffiaeth; bu’n gweithio ym maes ffotograffiaeth am dros bum mlynedd ar hugain, a graddiodd â gradd dosbarth cyntaf mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 1996.
Enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe, 2006 am ei ddelweddau ‘Ffarwel Rock’. Mae Aled wedi arddangos ei waith ledled Cymru gan gynnwys sioe unigol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2004, ac mewn lleoliadau yn Ewrop; mae lluniau o’i eiddo’n perthyn i gasgliadau cyhoeddus megis Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
Cyfrannodd i gyhoeddiadau nodedig gan gynnwys The Welsh Lens (MOMA Cymru, 1996) a Rhyfedd o Fyd (Gomer 2006). Ef oedd awdur delweddau trawiadol y gyfrol Môr Goleuni Tir Tywyll (Gomer), cyfrol i ddathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004.
I weld CV llawn, cysylltwch ag Aled. |
Aled Rhys Hughes
Born in the Rhondda Valley and raised in Cwmllynfell, Aled lives in Ammanford, Carmarthenshire, with his wife, Bethan Mair. He works as a photographic artist and photography lecturer; he has worked in the field of photography for over 25 years, and he graduated with first class honours in Photography from University of Wales College Newport in 1996.
Aled won the Gold Medal for Fine Art at the National Eisteddfod of Wales in 2006 for his images ‘Farewell Rock’. He has exhibited his work all over Wales, including an individual show at the National Library of Wales in 2004; his work is held in public collections, including the Glynn Vivian Gallery, the National Museum of Wales and Aberystwyth University.
He has contributed to many books, including the noted The Welsh Lens (Museum of Modern Art,1996) and Rhyfedd o Fyd (Gomer, 2006). He was the author of the striking images in Môr Goleuni Tir Tywyll (Gomer) a volume to celebrate the centenary of the renowned Welsh poet, Waldo Williams, in 2004.
For a full CV, please contact Aled. |